Tuesday, August 2, 2011

Cyrraedd y nod ariannol

Arwydd Eisteddfod Mae'r darged leol ar gyfer yr Eisteddfod eleni wedi pasio'r nod

Ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod yn Wrecsam a'r Fro fe gyhoeddwyd bod targed y gronfa leol wedi ei chyrraedd.

Dywedodd Aled Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni, ei fod yn falch iawn eu bod wedi pasio'r targed o ?275,000.

Dros y penwythnos cyntaf mae'r Eisteddfod wedi cynnig dau docyn am bris un yn lleol.

Mae hwn yn ddatblygiad o'r cynllun yn 2010 ym Mlaenau Gwent o docyn am ddim i bobl leol yn bennaf ar y dydd Sul.

Yn ol Mr Roberts mae hi wedi bod yn amser eitha' anodd yn yr hinsawdd economaidd i gyrraedd y targed ariannol.

"Ond dwi'n falch o allu dweud ein bod wedi pasio targed y gronfa leol erbyn hyn," meddai.

"Mae hyn yn mynd i roi hwb ychwanegol i ni."

Dau am bris un

Yn ol Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, mae'r gronfa leol bore Sadwrn wedi cyrraedd ?281,000.

Ategodd Mr Roberts bod yr arian yn dal i ddod i mewn.

"Fyddwn ni ddim yn stopio tan y byddwn ni wedi cyrraedd y targed answyddogol wnaethon ni ei osod fel Pwyllgor Gwaith, oedd dipyn uwch na'r ?275,000.

"Mae'r gwaith yn parhau - awn ymlaen."

Dywedodd ei fod yn falch iawn o'r ardaloedd lleol sydd wedi bod yn gefnogol iawn a bod rhai ardaloedd wedi bod yn llwyddiannus iawn, fel Dyffryn Ceiriog sydd dros 180% o'u targed ond bod ardaloedd mwy Seisnig wedi cyrraedd y nod.

Cafodd tua 16,000 o daflenni eu dosbarthu yn rhoi manylion am y cynllun dau docyn am bris un.

"Mae'r ymateb wedi bod yn dda iawn yn lleol ac yn un cadarnhaol iawn," yn ol Gwenllian Carr, Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod.

"Drwy hybu'r penwythnos cyntaf fel un teuluol a chysylltu efo pob disgybl yn yr ysgol gynradd, mae'n rhoi hwb i'r ymwelwyr."

Roedd hwn yn gynllyn arbennig ar gyfer ardal bwrdeistref Wrecsam.

Cyfieithu

Ategodd Mr Roberts bod y cynllun yn rhoi hwb i bobl leol di-Gymraeg ymweld a phrofi'r Eisteddfod am y tro cyntaf.

"Yn ystod yr wythnos dwi'n gobeithio y gallwn ni fel Cymry'r ardal fwynhau.

"Ond yr hyn sy'n braf ydi gweld cynifer o'r di-Gymraeg yn cefnogi ar y Maes.

"Cafodd y nifer mwya o declynnau cyfieithu eu defnyddio yn y cyngerdd agoriadol nos Wener.

"Dyna oedden ni eisiau yn yr ardal yma, yn hytrach na dim ond gweld yr un hen wynebau, bod 'na bobl newydd yn gweld yr arlwy sydd ar gael yma.

"Dwi'n teimlo'n ffyddiog ein bod yn mynd i gael Eisteddfod lwyddiannus iawn."


View the original article here

No comments:

Post a Comment