Tuesday, August 2, 2011

Postyn gôl yn cwympo ar fachgen

Crys p?l droed Gadawyd crys p?l droed ar y cae er cof am Casey Breese Ddydd Sadwrn

Mae bachgen 12 oed o Bowys wedi marw ar ol iddo gael ei fwrw gan byst gol tra yr oedd yn chwarae pel-droed.

Dywed yr heddlu fod Casey Breese yn chwarae pel-droed gyda bechgyn lleol ar gae chwarae yng Nghaersws ddydd Gwener pan gwympodd y pyst arno.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fod y pyst gol yn cael eu harchwilio wedi "marwolaeth drist".

Ychwanegodd y llefarydd nad oedd amgylchiadau amheus ynglyn a'r farwolaeth.

Cymorth

Aeth hofrennydd ambiwlans awyr a Casey i Ysbyty Brenhinol Yr Amwythig lle bu farw o'i anafiadau.

"Mae'r plant oedd yn chwarae ar y cae ar y pryd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad a bydd heddwas sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn siarad gyda'u teuluoedd," meddai llefarydd yr heddlu.

Mae swyddog cyswllt yn rhoi cymorth i'r teuluoedd ac mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Andrews fod yr heddlu yn cydweithio ag adran iechyd yr amgylchedd Cyngor Powys.

"Rydyn ni'n cydymdeimlo a'r teulu sydd wedi dioddef y colled arswydus yma."

Mae crwner Powys wedi ei hysbysu am y farwolaeth.

Cafodd gem gyfeillgar rhwng Clwb Pel-Droed Caersws a Chlwb Pel-Droed Caerfyrddin ei chanslo ddydd Sadwrn fel arwydd o barch.

Dywedodd is-gadeirydd Clwb Pel Droed Caerfyrddin, Robert Lloyd: "Cawsom gais yn hwyr yn y dydd ddoe wedi'r drychineb i ganslo'r gem.

"Yn naturiol fe gytunon ni ac yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i bawb sydd wedi'u heffeithio."


View the original article here

1 comment: