Mae Dirprwy-brif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd wedi amddiffyn gwario ?175,000 ar israddio celloedd ar gyfer troseddwyr yn Yr Wyddgrug.
Yn ol Ian Shannon fe fyddai cadw'r adeilad ar agor yn llawn amser wedi costio ?750,000.
Cafodd y safle ei chau'r wythnos diwethaf ond mi fydd yn dal i gael ei ddefnyddio ar adegau prysur.
Ac mae'r heddlu am ei gadw am y tro gan fod dyfodol tymor hir gorsaf yr heddlu yn Wrecsam yn ansicr.
Caiff staff o'r Wyddgrug eu hadleoli i Wrecsam a Llanelwy.
Tymor hir
Clywodd cyfarfod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru y bydd 'na adolygiad o ddyfodol yr orsaf yn Wrecsam.
Mae gorsaf heddlu Wrecsam yn dominyddu'r drefDywedodd Mr Shannon bod yr orsaf yn Wrecsam yn un drud i'w chadw a bod yr heddlu yn ystyried ei dyfodol hir dymor fel rhan o adolygiad eiddo.
Ychwanegodd ei bod yn bwysig cadw'r celloedd yn Yr Wyddgrug a bod hi'n addas gwario ?175,000.
Fe fydd effaith cau'r celloedd ar Orffennaf 8 yn cael ei fonitro.
Bydd y celloedd ar gael ar gyfer achlysuron penodol ac adegau prysur fel Noswyl Calan.
Ymhlith y gwaith sy'n cael ei wneud ydi gwella'r larwm tan, gwella'r system teledu cylch cyfyng a'r system awyru.
Heb wneud y gwaith yma fydd dim modd cadw'r lle ar agor fel rhywle wrth gefn.
I gynnal yr orsaf yn Yr Wyddgrug mae angen pump siarjant a pum aelod o staff sifil yn ol adroddiad i'r Awdurdod.
No comments:
Post a Comment