Carthion ydi'r prif reswm dros ddwr o ansawdd gwael yn Llyn Padarn ger Llanberis, yn ol adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Dywed yr Asiantaeth mai rhan o'r broblem yw cynllun gorlifo sy'n diogelu tai mewn cyfnod o stormydd.
Mae'r cynllun gorlifo yn golygu y gall carthion gyrraedd y llyn ar adegau.
Yn ol yr Asiantaeth mae'r sefyllfa wedi gwella ers i waith gael ei wneud ar safle trin carthion yn Llanberis ond mae angen gwneud mwy.
Yn 2009 bu'n rhaid gwahardd y cyhoedd rhag defnyddio'r llyn oherwydd algae gwenwynig.
Amgylchedd
Dywed Dwr Cymru eu bod am uwchraddio system trin dwr gerllaw.
Mewn datganiad dywedodd Dwr Cymru: "Rydym yn ymchwilio i opsiynau i geisio datrys y broblem yn yr hir dymor.
"Mae'r rhain yn cynnwys uwchraddio'r system trin dwr, a'r posibilrwydd o drin dwr gwastraff ar safle arall. "
Dywed yr adroddiad y dylai Dwr Cymru leihau'r dwr sy'n cael ei ryddhau i'r llyn a llunio strategaeth hirdymor i wella'r system garthffosiaeth leol
Ddydd Gwener cafodd cynnwys yr adroddiad ei ystyried gan Fforwm Llyn Padarn.
Mae'r Fforwm yn cynnwys swyddogion m Dwr Cymru, Asiantaeth Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Gwynedd.
Dywedodd AC Arfon, Alun Ffred Jones: "Mae Llyn Padarn yn bwysig i'r amgylchedd lleol ond rhaid cofio hefyd ei fod yn bwysig o ran cynhaliaeth nifer o bobl leol.
"Dyna pam ei bod hi'n bwysig ein bod yn cydweithio er mwyn sicrhau fod safon y dwr yn gwella."
Clywodd y Fforwm fod gwelliannau wedi bod i safle carthffosiaeth Llanberis yn Hydref 2009 a bod yna lai o faetholion yn cyrraedd y llyn.
Yn y gorffennol bu'n rhaid cau'r llyn oherwydd algae gwenwynig sy'n cael ei achosi'n rhannol gan faetholion
Dywedodd David Edwell o'r Asiantaeth Amgylchedd nad oedd sicrwydd na fyddai'r algae yn dychwelyd yr haf hwn.
"Does neb eisiau i'r sefyllfa godi eto," meddai.
"Ond mae'r wyddoniaeth tu cefn i'r broblem yn gymhleth ac mae patrwm tywydd eleni yn debyg i 2009, felly mae'n bwysig ein bod ar ein gwyliadwriaeth."
No comments:
Post a Comment