Mae yna bapur wythnosol newydd yng Nghymru a hynny mewn cyfnod sydd wedi gweld nifer o bapurau lleol yn cau.
Caiff y Pembroke and Pembroke Dock Observer ei gyhoeddi gan y Tenby Observer sy'n rhan o grwp Tindle.
Cafodd tua 1,500 o gopiau eu hargraffu ar gyfer y rhifyn cyntaf.
Cafodd yr ail rifyn ei gyhoeddi ddydd Gwener.
'Straeon cymunedol'
Dywedodd y rheolwr cyffredinol, Andrew Adamson fod y Tenby Observer, sy'n cyflogi 15 o staff, wedi ceisio cario straeon gan bobl Penfro a Doc Penfro.
Roedd 'na gynnydd yn y straeon oedd yn dod i law.
"Roedden yn meddwl tybed a fydda 'na alw am bapur penodol ar eu cyfer," meddai.
Mae'r Western Telegraph yn darparu papur ar gyfer y sir gyfan ond dywedodd Mr Andrews nad oedd 'na bapur penodol ar gyfer pobl Penfro a Doc Penfro.
"Mae'r Western Telegraph yn bapur gwych ond yn ymarferol all o ddim cynnwys y straeon am bob cymuned mewn manylder," ychwanegodd Mr Andrews.
Cyfraniad darllenwyr
Dywedodd yr ymgynghorydd cyfryngau, Robert Lloyd, cyn olygydd y Carmarthen Journal a Llanelli Star, bod papurau Tindle yn gweithredu yn wahanol iawn i'r rhai sy'n eiddo i gwmniau mawr fel Trinity Mirror, Newsquest a Northcliff.
"Mae Ray Tindle yn arbenigo yn yr hen bapurau bach sy'n gwerthu rhwng 6,000 a 10,000," meddai.
"Maen nhw'n broffidiol ac mae ganddyn nhw ddarllenwyr triw am ei fod yn credu mewn hen werthoedd newyddion fel enwau, wynebau a llefydd.
"Y darllenwyr sy'n cyfrannu rhannau helaeth o ddeunydd fel eu bod yn gallu gweithredu gyda nifer fechan o staff.
"Mae'r cwmniau mwy wedi pellhau oddi wrth y gymuned a'r darllenwyr gan gau swyddfeydd, canoli'r cynhyrchu, lleihau rhifynnau a dwi'n credu eu bod yn colli rhywbeth gwerthfawr iawn."
No comments:
Post a Comment