Mae Amgueddfa Gelf Genedlaethol cyntaf Cymru wedi cael ei sefydlu.
Wedi ei lleoli yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae'n golygu fod yna gyfres o orielau integredig yn dangos casgliad o gelf cain a chymwysedig.
Mae'r cynllun i greu chwe oriel wedi costio ?6.5 miliwn.
Dywed yr Amgueddfa Genedlaethol mai'r nod yn y pendraw yw sefydlu Oriel Genedlaethol i Gymru.
Ond dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, fod y datblygiad diweddar yma yn un pwysig.
"Am y tro cyntaf erioed, bydd gan y genedl orielau o safon ryngwladol sy'n adrodd hanes unigryw celf yng Nghymru a sut yr esblygodd y wlad."
Yr Adain Orllewinol - chwe oriel gelf gyfoes arbennig newydd - fydd y gofod mwyaf o'i fath yng Nghymru.
Cyn nawr, un oriel oedd gan yr Amgueddfa i arddangos ei hystod o gelf fodern a chyfoes, sy'n un o gasgliadau pwysicaf y DU.
Dywedodd Michael Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu, Rhaglennu a Datblygu Amgueddfa Cymru, y bydd yr amgueddfa gelf yn apelio at bob carfan o ymwelwyr a'r Amgueddfa.
"Mae'n gam enfawr ymlaen yn y ffordd rydym ni, Amgueddfa Cymru, yn arddangos ac yn dehongli'n casgliadau.
"Bydd y project hwn o ailadeiladu ac ail-arddangos hefyd yn cael ei gyflwyno fel un arddangosiad integredig am y tro cyntaf, gan adlewyrchu'r ffordd y mae'n gweddnewid ymwybyddiaeth o'r celfyddydau gweledol yng Nghymru," meddai.
"Ein nod yw ysbrydoli creadigrwydd cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'r orielau hyn yn rhan hanfodol o'r strategaeth hon."
No comments:
Post a Comment