Sunday, July 17, 2011

Actores yn fuddugol am ddysgu iaith

Yr wyth a fu'n cystadlu ar cariad@iaith 2011 Bu'r wyth yn dysgu Cymraeg am yr wythnos

Yr actores Melanie Walters yw enillydd teitl cariad@iaith:love4language 2011.

Roedd hi ymhlith wyth o bobl a fu'n dysgu'r iaith yn ystod wythnos ddwys yng ngwersyll Fforest yng Nghilgerran.

Bu gwylwyr y rhaglen yn dilyn ymdrechion yr wyth ar y sioe realiti S4C cariad@iaith:love4language.

Yr actores o Abertawe oedd yn chwarae rhan Gwen yn y gyfres ddrama boblogaidd Gavin and Stacey.

Hi dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau gan ei chyd-ddysgwyr enwog a thiwtoriaid y cwrs am wneud yr ymdrech fwyaf yn ystod yr wythnos.

"Mae ennill yn anrhydedd fawr," meddai Melanie.

'Dal ati'

"Mae'r wythnos yma wedi fy ysbrydoli i - a doeddwn i ddim wedi disgwyl teimlo fel hyn am y profiad.

Melanie Walters Melanie Walters ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth

"Fe ddysgais dipyn o Gymraeg ar gyrsiau rai blynyddoedd yn ol ac roeddwn i'n synnu cymaint oedd wedi aros yn yr isymwybod.

"Fe fyddwn i'n annog unrhyw un sy'n dysgu Cymraeg i ddal ati, mae'n werth yr ymdrech."

Y saith arall oedd y chwaraewr rygbi Colin Charvis, yr actores Helen Lederer, y canwr Rhys o GLC, y gantores Sophie Evans, y cyflwynydd Matt Johnson, yr actores Josie d'Arby a'r gwleidydd Lembit Opik.

Roedden nhw i gyd yn derbyn cwrs dwys o wersi gan y tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn, a hynny o flaen y camerau teledu.

Fe wnaeth y ddarlledwraig a'r newyddiadurwraig Janet Street-Porter, a ymddangosodd yn y gyfres flaenorol o cariad@iaith yn 2004 gyflwyno'r wobr i'r enillydd.

Y wobr oedd llwy garu brydferth o ddur wedi ei wneud o law gan y gof a'r artist Toby Petersen o'r Gelli Wen, ger Meidrym, Sir Gaerfyrddin, ac fe wnaeth ennill lle ar gwrs wythnos Cymraeg yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, Pen Llyn.

'Gwerthfawr'

Yr actores Josie d'Arby ddaeth yn ail, gan ennill penwythnos ym mhentre' gwyliau pum seren Bluestone yn Sir Benfro.

Dywedodd Josie d'Arby ei bod hi'n anrhydedd fawr i ennill yr ail wobr.

"Rwy' ar ben fy nigon," meddai.

"Mae'r holl wythnos wedi bod yn brofiad anhygoel - dyw e ddim wedi teimlo fel cystadleuaeth o gwbl ond yn hytrach fel ymdrech wyth o bobl i weithio gyda'i gilydd i ddysgu rhywbeth gwerthfawr."

Dywedodd y gyflwynwraig a'r tiwtor iaith Nia Parry, eu bod nhw i gyd yn enillwyr.

"Maen nhw wedi dangos beth y gall pobl gyflawni mewn wythnos wrth ddysgu Cymraeg.

"Maen nhw'n sicr o fod yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr ym mhob man."

Gallwch wylio holl benodau cariad@iaith:love4language eto ar www.s4c.co.uk/clic


View the original article here

No comments:

Post a Comment