Thursday, July 14, 2011

Cyfarfod i drafod dyfodol harbwr

Cwch ar ei hochr yn harbwr Pwllheli Tynwyd y llun yma o gwch ar ei ochr wrth geisio mynd i mewn i harbwr Pwllheli

Bydd cyfarfod arbennig o Gyngor Tref Pwllheli i drafod dyfodol harbwr y dref.

Mae perchnogion cychod yn y marina yno wedi bod yn cwyno ers blynyddoedd am fod mwd yn cronni, gan rwystro cychod rhag mynd i mewn ag allan o'r marina.

Bellach mae'r sefyllfa wedi gwaethygu i'r fath raddau fel mai dim ond am ddwy awr bob ochr i'r penllanw y mae modd mynd a chwch i mewn neu allan.

Ar un adeg, roedd 300 o bobl ar y rhestr aros am angorfa yno, ond erbyn heddiw mae 40 o angorfeydd gwag yno, ac mae rhagor yn bygwth symud eu cychod oddi yno.

'Pryderus'

Cafodd cyfarfod nos Fercher ei alw gan Faer Pwllheli, y Cynghorydd Meic Parry.

"Dros y blynyddoedd mae'r cyngor tref wedi bod yn hynod o bryderus ynglyn a chyflwr harbwr Pwllheli," meddai.

"Mae rhai yn y dref yn gofyn a yw Cyngor Gwynedd wedi mynd allan i ddinistrio harbwr Pwllheli.

"Ers 1996 pan drosglwyddwyd yr harbwr o ofal hen Gyngor Dwyfor maen nhw wedi elwa yn braf o ?10 miliwn, a dydyn nhw ddim wedi ail-fuddsoddi mewn cynnal a chadw yn enwedig yn y carthu wrth gwrs."

'Pleser?'

Un sy'n berchen cwch yn y marina yw Dewi Pritchard-Jones, ac mae o'n flin iawn am y sefyllfa bresennol.

"Os na fydd pethau'n gwella fe fydd rhaid i mi fynd o' 'na, a fy mhleser i ydi hwylio nid eistedd yn y marina yn disgwyl am ddwr.

"Pan nes i symud yno ro'n i'n gwybod, roedd pawb yn gwbod, roedd y cyngor yn gwbod bod angen i chi 'dredgio' am nad ydi Pwllheli yn harbwr dwfn naturiol.

"Mae tua 500 o berths yna, ac ma' Cyngor Gwynedd yn cael tua ?4,000 y flwyddyn o bob un, felly mae yna ddigon o arian yn dod i mewn.

"Be' mae'r cyngor wedi bod yn 'neud hefo'r arian? Does gen i ddim syniad."

Hanner miliwn

Dywedodd Cyngor Gwynedd mewn datganiad:

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cyngor Gwynedd wedi buddsoddi dros ?500,000 i fynd i'r afael a'r broblem gynyddol o siltio yng ngheg harbwr a basn marina Pwllheli.

"Mae'n werth nodi fod y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer datblygiad Hafan Pwllheli yn cadarnhau nad oedd erioed yn fwriad i ddarparu mynediad 24 awr i'r marina.

"Mae cychod wedi llwyddo i gael mynediad 24 awr dros yr 20 mlynedd diwethaf oherwydd gor-garthu sylweddol fel rhan o'r prosiect datblygu gwreiddiol yn 1990.

"Oherwydd lefelau siltio anarferol o uchel a achoswyd gan newidiadau sylweddol yn yr amgylchedd morol lleol, nid yw mynediad 24 awr bellach yn bosib, ac rydym wedi cymryd camau rhagweithiol i annog perchnogion cychod i beidio ceisio mynediad y tu hwnt i'r amseroedd a nodir.

"Mae problemau yn dueddol o ddigwydd pan mae perchnogion cychod yn ceisio mordwyo'r sianel y tu allan i'r oriau a nodir.

'Safon ryngwladol'

"Mae'r ffaith y bydd Pwllheli unwaith eto eleni yn croesawu amrediad o ddigwyddiadau hwylio a gweithgareddau chwaraeon dwr yn tanlinellu'r ffaith fod trefnwyr y digwyddiadau hyn yn parhau i werthfawrogi'r cyfleusterau ym Mhwllheli.

"Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio yn agos gyda'n partneriaid yn lleol i sicrhau fod Pwllheli yn parhau yn gyrchfan hwylio o safon ryngwladol.

"Bydd cynrychiolaeth o'r Cyngor yn cyfarfod gyda chyngor tref Pwllheli heno i drafod y materion hyn ymhellach."


View the original article here

No comments:

Post a Comment