Sunday, July 17, 2011

Cwmni ar ben: Addewid i gwsmeriaid

Swyddfa Gill's Cruise Centre yng Nghaerdydd Swyddfa Gill's Cruise Centre yng Nghaerdydd

Mae miloedd o bobl sydd wedi archebu gwyliau ar longau trwy gwmni Gill's o Gaerdydd wedi cael clywed y bydden nhw'n gallu mynd ar eu gwyliau, er bod y cwmni wedi dod i ben.

Roedd y cwmni'n trefnu gwyliau ar ran P&O, Cunard a Royal Caribbean.

Dywedodd Cymdeithas Cwmniau Teithio Abta eu bod wedi dileu aelodaeth y cwmni a hynny oherwydd "methiant ariannol".

Doedd neb o'r cwmni ar gael i wneud sylw ac mae gwefan y cwmni yn dweud na allen nhw dderbyn ymholiadau ac archebion am wyliau newydd.

Dywedodd Abta bod teithiau sydd wedi cael eu harchebu drwy Gill's wedi eu gwarchod yn ariannol.

Fe ddylai unrhyw un sydd wedi archebu gwyliau gyda'r cwmni o dan drwydded Atol gysylltu gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil.

Os ydi'r daith wedi ei harchebu drwy gyflenwyr eraill yna fe ddylai cwsmeriaid gysylltu gyda'r cwmni hwnnw.

"Mae cwmni Gill's Cruise Centre yn ymddiheuro eu bod yn methu derbyn unrhyw archebion gwyliau newydd ar hyn o bryd," meddai neges ar eu gwefan.

"Fe ddylai ein cwsmeriaid presennol gysylltu ein hadran gwasanaethau cwsmeriaid ar 0845 460 6094."


View the original article here

No comments:

Post a Comment