Sunday, July 31, 2011

Gobaith i Gymru yng Nghwpan y Byd

Cwpan y Byd Enw Cymru ddaeth allan o'r het gyntaf un

Bydd Cymru yn herio'r Alban yng Ngrwp A Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Daeth yr enwau allan o'r het yn Rio de Janeiro nos Sadwrn.

Yn ymuno a Chymru a'r Alban yng Ngrwp A y mae Serbia, Croatia, Gwlad Belg a Macedonia.

Dim ond 13 lle sydd ar gael i dimau o Ewrop gystadlu ymysg y 32 tim fydd yn brwydro i ennill Cwpan y Bydd ym Mrasil rhwng Mehefin 12 a Gorffennaf 13 2014.

Bydd yr wyth tim fydd yn cipio'r ail safle ym mhob grwp yn gorfod chwarae yn erbyn ei gilydd i ennill eu lle ym Mrasil.

Dywedodd rheolwr tim Cymru, Gary Speed: "Yn amlwg mae hwn yn grwp anodd ond gallai bethau fod wedi bod yn waeth.

"Does dim un tim gwan yn y grwp a gallai bob tim curo bob tim arall."

Dywedodd rheolwr Yr Alban, Graig Levein: "Curon ni Gymru yn Nulyn ar ddechrau'r haf ond collon ni 3-0 i Gymru ym mis Tachwedd 2009."

Bydd Gogledd Iwerddon yn herio Portiwgal, Rwsia, Israel, Azerbaijan a Lwcsembwrg yng Ngrwp F.

Bydd Lloegr yn wynebu Montenegro, Yr Wcrain, Gwlad Pwyl, Moldofa a San Marino yng Ngrwp H.


View the original article here

No comments:

Post a Comment