Bydd mesurau arbennig yn cael eu cyflwyno mewn awdurdod addysg wedi adroddiad am safonau addysg mewn y sir.
Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y byddai tim o Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn rheoli addysg ym Mlaenau Gwent.
Dywedodd y corff arolygu, Estyn, fod "diffyg rheolaeth systemig" yn Awdurdod Addysg Blaenau Gwent.
Mae'r cyngor wedi dweud eu bod nhw eisoes wedi cyflwyno gwelliannau.
Hwn yw'r cyngor cyntaf lle mae awdurdod addysg cyfan wedi ei feirniadu yn y modd hwn ers i Estyn gyflwyno trefn archwilio newydd y llynedd.
'Annerbyniol'
Yn y cyfamser, mae'r cynghorydd oedd yn gyfrifol am y portfolio addysg ym Mlaenau Gwent, Stephen Bard, wedi ymddiswyddo.
Dywedodd Mr Andrews: "Mae'r methiannau'n annerbyniol - dyw cynnydd plant a phobl ifanc ddim wedi bod yn foddhaol ac mae'r perfformiad wedi bod yn llawer is na'r safon.
"Mae'r gefnogaeth o ran gwella ysgolion ac anghenion dysgu ychwanegol wedi bod yn anfoddhaol ac mae methiannau systemig wedi golygu nad oes gwerth annigonol am arian."
Dywedodd yr adroddiad fod lle i wella mewn nifer o feysydd eraill, gan ychwanegu bod diffyg arweiniad swyddogion ac aelodau dros nifer o flynyddoedd, a bod eu hymateb i gyfres o adroddiadau archwilio Estyn wedi bod yn araf ac anghyflawn.
'Brawychus'
Dywedodd Dr Philip Dixon o undeb athrawon yr ATL: "Mae'r adroddiad yn frawychus, yn enwedig o ystyried ein bod yn son am ddyfodol plant yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
"Mae'r awdurdod yn amlwg yn rhy fach i ddarparu'n effeithiol ... ac mae'n dangos canlyniadau trychinebus methiannau hir dymor o ran arweiniad gwleidyddol.
"Ond mae'r adroddiad yn codi ambell gwestiwn rhyfedd.
"Ar sail data roddwyd i'r BBC gan Lywodraeth Cymru, Blaenau Gwent yw'r trydydd orau yng Nghymru o safbwynt ychwanegu gwerth addysgol.
"Dyma'r data sy'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru fel sail i system fandio newydd ac os yw Blaenau Gwent yn ymddangos fel eu bod yn gwneud yn dda, a fydd mwy o awdurdodau yn cael eu beirniadu?"
No comments:
Post a Comment