Friday, July 15, 2011

Prifysgolion: Newidiadau arloesol

Prifysgol Dewi Sant, Llanbed Y bwriad yw i uno Prifysgol Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau arloesol ar gyfer prifysgolion Cymru, gan gynnwys cyfuno sawl sefydliad.

Ac mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys uno Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru, Casnewydd ac Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Mae yna fwriad i ffurfio cynghrair strategol rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Bwriedir hefyd uno Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe gyda'r posibilirwydd o uno a Phrifysgol Cymru.

Sefydliad unedig

Bydd Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn dal i fodoli fel sefydliadau annibynnol ond disgwylir i'r ddwy brifysgol gydweithio'n strategol yn y dyfodol.

Mae cynllun Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi'i gefnogi gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.

Canlyniad y cynllun fydd lleihau nifer y sefydliadau uwch yng Nghymru o 11 i chwech.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth: "Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn edrych ymlaen at gyfrannu at y broses ymgynghori a fydd yn deillio ohono.

"Mae'r cynigion yn cynnwys cynlluniau i gryfhau ymhellach y berthynas rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor a Glyndwr.

"Bydd rhain yn cael eu hystyried yn fanwl yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Mae Prifysgol Aberystwyth eisoes yn cydweithio'n llwyddiannus iawn gyda Phrifysgol Bangor ac rydym yn falch o weld bod hyn yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru."

Ddydd Llun cadarnhaodd cyrff llywodraethu Prifysgol Cymru, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant eu hymrwymiad i uno.

Dros y misoedd nesaf bydd y tri sefydliad yn gweithio gyda'i gilydd i greu sefydliad unedig dan Siarter Prifysgol Cymru.

Allweddol

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru y byddai Prifysgol Cymru ar ei newydd wedd yn ei sefydlu ei hun yn un o'r sefydliadau allweddol yng Nghymru yn cyflenwi cyfleoedd dysgu ac ymchwil ansawdd uchel i fyfyrwyr.

Bydd yr uno yn golygu un strwythur llywodraethu a rheoli newydd.

Bydd yr Athro Medwin Hughes, sydd ar hyn o bryd yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, yn dod yn Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Cyllido'r Brifysgol Cymru newydd, a'r Athro Marc Clement, Is-Ganghellor cyfredol Prifysgol Cymru, fydd Llywydd y Brifysgol, yn arwain yr agenda ymchwil, menter ac arloesi.

Y nod yw cwblhau'r uno'n ffurfiol erbyn 1 Awst 2012.

Mae'r tri sefydliad wedi cytuno i uno eu gweithrediadau ar y cyfle cyntaf posibl gyda phenodiad yr Athro Hughes yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a'r Athro Clement yn Llywydd Prifysgol Cymru yn weithredol o 1 Hydref 2011.


View the original article here

No comments:

Post a Comment